Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 20 Hydref 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:45 - 11:55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lesley Griffiths, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol David Sissling, Director General for Health and Social Services, Llywodraeth Cymru Chris Hurst, Llywodraeth Cymru Steve Milsom, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2. Ymchwiliad i ofal preswyl ar gyfer pobl hyn - cytuno ar y cylch gorchwyl
2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar welliannau i’r cylch gorchwyl drafft, ac ar y ffaith y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 24 Hydref.
3. Cyllideb ddrafft 2012 -13: craffu ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
3.1 Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyllideb ddrafft 2012-13.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i roi gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor am gyllid sydd wedi’i neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, a manylion ynghylch sut y bydd yr £83 miliwn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i fyrddau iechyd.
3.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am effaith y system presgripsiynau am ddim.
3.4 Bu’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyllideb ddrafft 2012 -13.
3.5 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu â’r Pwyllgor adroddiad gan awdurdodau lleol ar ddigonolrwydd lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer y pecyn gwella camau cyntaf, pan fydd yr adroddiad ar gael.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.24(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
5. Cyllideb ddrafft 2012-13: trafod y dystiolaeth
5.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a gafwyd.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.